Adysgrif
Nid yw holl ffyrdd yr un ymddiriedolaeth yn cael eu cadw mewn cyflwr da o hyd. Mae hyn yn destun cryn genfigen ymhlith y Ffermwyr ac mae cymhellion personol yn cael eu priodoli’n hawdd i’r Ymddiriedolwyr. ...
Mae’r angen i archwilio’r cyfrifon refeniw a gwariant yn fanwl yn siarad drosto’i hun – Bydd Cyfrifon pob ymddiriedolaeth yn cyflenwi ei hymchwiliad ei hun.
Mae’r nifer fawr o byrth atal bellach yn gamgymeriad cydnabyddedig, ond deallaf fod yn rhaid ymchwilio i’r graddau y gwnaed hynny. Ar wahân i effaith ormesol yr holl byrth, rhaid imi ychwanegu fy mod wedi clywed am honiadau o ffafriaeth ac anghyfiawnder yn erbyn Ymddiriedolwyr am osod y pyrth fel yr eithrir eu Tenantiaid eu hunain rhag gorfod talu’r Doll.
Os bydd o fewn ymchwiliad y Comisiwn, tybiaf y byddai’n werth chweil ystyried graddfeydd y tollau gogyfer â’r gwahanol bersonau sydd yn defnyddio cerbydau a rhai sydd yn defnyddio troliau. Cedwir mewn cof ba fath o geffyl a ddefnyddir gan y ffermwr – a sawl un y mae’n rhaid iddo eu defnyddio er gwaetha’r gwelliannau i’r ffyrdd trol dros y mynyddoedd. Hefyd, hoffwn dynnu sylw at faint a phwysau’r troliau sy’n rhwymedig i dalu toll fwy yng nghyswllt olwynion culach, ac at y modd y trethir cludiant calch a glo.
Geirfa
| priodoli | beio |
| cymhellion | pwrpas rhywun dros wneud rhywbeth |
| cyfrifon refeniw a gwariant | y cofnodion ar gyfer incwm a gwariant |
| cyflenwi | darparu ar gyfer |
| ymchwiliad | yr ymholiadau a wnaed i’r helyntion |
| cydnabyddedig | sy’n cael ei gydnabod, ei dderbyn |
| gormesol | sy’n effeithio’n wael ar rywun, yn cadw rhywun i lawr |
| anghyfiawnder | annhegwch |
| comisiwn | sefydlwyd hwn ym mis Hydref 1843 gan yr Ysgrifennydd Gwladol, Syr James Graham, i adrodd ar gyflwr Ymddiriedolaethau’r Tollbyrth yng Nghymru ac i ymchwilio i achosion yr helyntion. Arweiniodd at newid y gyfraith y flwyddyn ddilynol a llwyddwyd felly i wneud i ffwrdd ag effeithiau gwaethaf yr Ymddiriedolaethau hyn. |
| ffyrdd trol | ffyrdd neu lonydd ar gyfer ceffyl a throl / cart |
| rhwymedig | sy’n gorfod gwneud rhywbeth fel arfer |