Ffynhonnell 1: Llythyr gan Beca, 16 Rhagfyr 1842 [Mae’n debyg bod llythyrau fel hwn yn cael eu copïo a’u danfon yn ddirgel. Mae dau gopi o’r llythyr hwn yn dal i fodoli.] Adysgrif Syml Rhybudd
Hoffwn eich rhybuddio, yn enwedig y rhai a dyngodd lw i fod yn gwnstabliaid er mwyn dal Beca a’i phlant. Gallaf eich sicrhau y bydd yn rhy anodd i Bullin a’i gwmni orffen y gwaith a ddechreuasant – sef cadw’r pyrth yn Llanfihangel a [?] yn sefyll. Cymerwch yn awr yr ychydig linellau hyn fel gwybodaeth ichi wylio eich hunain, chwychwi a gawsoch unrhyw gysylltiad â Bullin, Y Meistri M.C Lics, Mr Thomas Blue Boar. Bydd eich holl eiddo yn cael ei losgi mewn un noson os na ufuddheir i’r rhybudd hwn. Anfonwch ymaith y crwydriaid hynny yr ydych yn rhoi ffafriaeth iddynt. Yr wyf bob amser yn dymuno bod yn onest yn fy holl ymwneud â phobl. Ai rhesymol yw eu bod yn trethu gymaint ar y wlad, ac yn dwyn o bocedi ffermwyr a gweision tlawd? Bydd yr holl byrth a saif ar y ffyrdd bychain hyn yn cael eu dinistrio. Yr wyf yn fodlon i’r pyrth ar Ffordd y Frenhines aros. Mae’n gywilydd i ni Gymry fod â meibion Hengist yn ein rheoli. Onid ydych yn cofio’r Cyllyll Hirion a ddyfeisiwyd gan Hengist i ladd ein cyndadau? Gallwch fod yn sicr o un peth, bydd yr un dynged yn dod ichwi os na ildiwch pan ddof atoch, a bydd hynny yn o fuan. Yr wyf yn awr yn eich gorchymyn i adael y lle cyn imi ddod, oherwydd yr wyf yn benderfynol o gael fy ffordd. O ran y cwnstabl a’r plismyn, nid yw Beca a’i phlant yn talu mwy o sylw iddynt nag i’r ceiliogod rhedyn sy’n hedfan yn yr haf. Mae rhywrai eraill sydd wedi eu nodi gan Beca. Ni chant eu henwi yn awr, ond, os nad ydynt yn ufuddhau i’r rhybudd hwn, byddaf yn galw i’w gweld yn fuan iawn. Yn ffyddlon hyd at farwolaeth
gyda’r sir Beca a’i phlant Trwn [?] Geirfa
|
||||||||||||
| Cau'r ffenestr |