Ffynhonnell 2: Datganiad William Rees, casglwr tollau, 15 Awst 1843
Adysgrif
Datganiad William Rees, Casglwr Tollau yn Nhollborth Trefychan
Rhwng un a dau o’r gloch ar fore dydd Sul diwethaf, yr aflonyddwyd arno gan ŵr yn curo ar ei ddrws yn holi’r ffordd i Bont Llanfallteg, a dywedodd wrtho, a chwedyn yn syth clywodd sŵn meirch, a daeth tua phump neu ddeg ar hugain o ddynion wedi cuddwisgo, (mewn gwisgoedd gwynion a hancesi lliw ynghlwm wrth eu pennau o dan eu genau) at ei dŷ a’i gymell drwy fygythiadau, gan anelu ar yr un pryd dri Dryll at ei frest, i ildio ei Lyfrau, a chludwyd hwynt ymaith ganddynt. Yr oedd y Llyfrau yn cynnwys ymhlith cyfrifon eraill, enwau sawl un a wrthododd dalu’r doll wrth y Porth dywededig, ni lwyddodd i adnabod yr un ohonynt, ond yr oedd y person agosaf at ffenestr ei dŷ ar gefn ceffyl llwyd.
William Rees
|