Source 3a: Part of a handbill in Welsh, 20 June 1843 [Edward Crompton Lloyd Hall, high sheriff of Cardiganshire, knew that Rebecca and her daughters would be meeting on Wednesday night at Blaennant Lane, perhaps to plan or carry out another attack. He had these handbills printed up and distributed.] Welsh transcript AT
GYMRY,
REBECCA A’I MHERCHED. ...... A YDYCH CHWI YN MEDDWL Y GALLAF GEFNOGI, NEU UNO YN, EICH GWEITHREDOEDD AFREOLUS? Yr wyf yn dywedyd wrthych, NA WNAF. A pheth sydd fwy, er fy mod wedi ymladd, yn ymladd, ac yn bwriadu etto i ymladd eich brwydrau, hyd oni enniller perffaith gyfiawnder, ac adffurfiad gwladwriaethol, i chwi ac i’ch plant, yr wyf, a byddaf yn wastadol, y blaenaf i gadw heddwch i’r Frenines a’i deiliaid, ac i rwystro pob afreolaeth a therfysg. Y mae digon wedi ei wneyd yn barod, i ddangos i’r Llywodraeth, y fath anfoddlonrwydd cyffredinol sydd yn eich plith, o herwydd gormes. Y meant wedi danfon milwyr i’r wlad i gadw heddwch: YR YDWYF, GAN HYNY YN DYMUNO YN DAER ARNOCH BEIDIO CYFARFOD A’CH GILYDD NOS FERCHER. Yr ydwyf wedi ysgrifenu am y Milwyr, i ddyfod yma i’ch rhwystro i gyflawni unrhyw ddrygioni, os byddwch mor annoeth ag ymgasglu ynghyd. Paham y rhwystrwch fi i ymladd eich brwydrau yn yr unig ffoordd y gallwn lwyddo; a thrwy eich trais a’ch afredymoldeb, yr hyn yn sier ni thyccia, fy nhroi o fod yn gyfaill, i fod yn wrthwynebwr i chwi? Y mae eich ymddygiad yn blentynaidd ac yn ddireswm, ac yn annhebyg iawn i ddynion a chanddynt ddybenion pwysig i’w Cyrheadd. Pa ham y dangoswch ffolineb pan y mae doethined yn ofynedig? Y gosp am dynu ty Turnpike i lawr yw ALLTUDIAD DROS FYWYD. Pa ddaioni a ellwch ei gael wrth redeg i’r fath berygl, pan y gallech gyrhaedd pob peth a ddylech fwynhau, drwy lwybr heddychlon ac esmwyth, ac heb fyned i unrhyw enbydrwydd. Nis gallaf gyfrif hyn ond i’ch anwybodaeth, drwy yr hyn yr ydych yn nalluog, i gadw o fewn ei gylch priodol, y grym anwrthwynebol sydd yn eich meddiant. Y ganfed ran o’ch nerth chwi, wedi ei gyffeu yn briodol, a wnelai fwy drosoch, a hyny yn ddiberygl, nag a wnelai maint eich grym fil o weithiau, wrth ei wastraffu mewn gorchwylion afresymol, fel y gwnaethoch yn ddiweddar. Cymmerwch eich arwain genyf. Gwnewch yr hyn yr wyf yn ei erchi i chwi, a rhaid y BYDDWCH YN ORCHFYGWYR YN Y DIWEDD. Eled pob un o honoch i’w artref ei hun, yn heddychol ac yn dawel, now Fercher; a bore dydd lau, bydded i bob plwyf ddewis dau Gennadwr, i ddyfod ataf fi, (fel y gwnaeth y plwyfi yn Hwndrwd Elfed,) i’m gwneyd yn hysbys o’r gorthrymderau sydd yn eich gwasgu, ac yna dilynwch y cynghor a roddnf iddynt. Os gwnewch, heddwch a Ilwyddiant a adferir i chwi; ac os na wnewch, gadawaf chwi i fwynhau canlyniadau eich anwybodaeth a’ch ynfydrwydd. EDW. CR. LLOYD HALL.
|
| Close Window |