Ffynhonnell 4ch: Rhan o femo George Ellis, 2 Tachwedd 1843

Adysgrif

Os bydd o fewn ymchwiliad y Comisiwn, tybiaf y byddai’n werth chweil ystyried graddfeydd y tollau gogyfer â’r gwahanol bersonau sydd yn defnyddio cerbydau a rhai sydd yn defnyddio troliau. Cedwir mewn cof ba fath o geffyl a ddefnyddir gan y ffermwr – a sawl un y mae’n rhaid iddo eu defnyddio er gwaetha’r gwelliannau i’r ffyrdd trol dros y mynyddoedd. Hefyd, hoffwn dynnu sylw at faint a phwysau’r troliau sy’n rhwymedig i dalu toll fwy yng nghyswllt olwynion culach, ac at y modd y trethir cludiant calch a glo.

Geirfa

comisiwn

sefydlwyd hwn ym mis Hydref 1843 gan yr Ysgrifennydd Gwladol, Syr James Graham, i adrodd ar gyflwr Ymddiriedolaethau’r Tollbyrth yng Nghymru ac i ymchwilio i achosion yr helyntion. Arweiniodd at newid y gyfraith y flwyddyn ddilynol a llwyddwyd felly i wneud i ffwrdd ag effeithiau gwaethaf yr Ymddiriedolaethau hyn.

ffyrdd trol

ffyrdd neu lonydd ar gyfer ceffyl a throl / cart

rhwymedig

sy’n gorfod gwneud rhywbeth fel arfer

Cau'r ffenestr